Numeri 13:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Felly, aethant i fyny i ysbïo'r wlad o anialwch Sin hyd Rehob, ger Lebo-hamath.

22. Aethant i fyny trwy'r Negef a chyrraedd Hebron; yno yr oedd Ahiman, Sesai a Talmai, disgynyddion Anac. (Adeiladwyd Hebron saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.)

23. Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd â phomgranadau a ffigys.

24. Galwyd y lle yn ddyffryn Escol oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno.

25. Ar ôl ysbïo'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn ôl

26. i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir.

Numeri 13