Numeri 13:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. o lwyth Aser: Sethur fab Michael;

14. o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi;

15. o lwyth Gad: Geuel fab Maci.

16. Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun.

17. Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir,

18. ac edrychwch pa fath wlad yw hi: p'run ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi;

19. p'run ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; p'run ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd;

20. p'run ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir.” Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi.

Numeri 13