1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. “Anfon ddynion i ysbïo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid.”
3. Felly, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel.
4. Dyma eu henwau: o lwyth Reuben: Sammua fab Saccur;
5. o lwyth Simeon: Saffat fab Hori;
6. o lwyth Jwda: Caleb fab Jeffunne;
7. o lwyth Issachar: Igal fab Joseff;
8. o lwyth Effraim: Hosea fab Nun;
9. o lwyth Benjamin: Palti fab Raffu;
10. o lwyth Sabulon: Gadiel fab Sodi;
11. o lwyth Joseff, sef o lwyth Manasse: Gadi fab Susi;
12. o lwyth Dan: Ammiel fab Gemali;
13. o lwyth Aser: Sethur fab Michael;
14. o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi;
15. o lwyth Gad: Geuel fab Maci.
16. Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun.
17. Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir,
18. ac edrychwch pa fath wlad yw hi: p'run ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi;
19. p'run ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; p'run ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd;
20. p'run ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir.” Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi.