Numeri 12:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,yn eglur, ac nid mewn posau;caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.Pam, felly, nad oedd arnoch ofncwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”

9. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.

10. Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.

11. Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud.

12. Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.”

Numeri 12