Numeri 11:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd y bobl yn cwyno am eu caledi yng nghlyw'r ARGLWYDD, a phan glywodd ef hwy, enynnodd ei lid, a llosgodd tân yr ARGLWYDD yn eu plith gan ddifa un cwr o'r gwersyll.

2. Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddïodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tân.

3. Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera, am i dân yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.

4. Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta?

5. Yr ydym yn cofio'r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad yn yr Aifft, a'r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a'r garlleg;

6. ond yn awr, darfu am ein harchwaeth, ac nid oes dim i'w weld ond manna.”

Numeri 11