Numeri 10:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Dywedodd Moses, “Paid â'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain.

32. Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt.”

33. Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys.

34. Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll.

35. Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, “Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gasáu ffoi o'th flaen.”

36. A phan ddôi'r arch i orffwys, byddai'n dweud, “Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel.”

Numeri 10