Numeri 10:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur,

24. a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.

25. Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai.

26. Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran,

27. a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan.

Numeri 10