Numeri 1:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

4. Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu.

5. Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur;

6. o Simeon: Selumiel fab Surisadai;

7. o Jwda: Nahson fab Amminadab;

8. o Issachar: Nethanel fab Suar;

9. o Sabulon: Eliab fab Helon.

Numeri 1