Numeri 1:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

23. Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.

24. O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

25. Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg.

26. O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

27. Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant.

Numeri 1