Nehemeia 9:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ti yn unig wyt ARGLWYDD.Ti a wnaeth y nefoedd,nef y nefoedd a'i holl luoedd,y ddaear a'r cwbl sydd arni,y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt;ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd,ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.

7. Ti yw yr ARGLWYDD Dduw,ti a ddewisodd Abrama'i dywys o Ur y Caldeaid,a rhoi iddo'r enw Abraham;

8. fe'i cefaist yn ffyddlon i ti,a gwnaethost gyfamod ag ef,i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid,yr Hethiaid, yr Amoriaid,y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid.Ac fe gedwaist dy air,oherwydd cyfiawn wyt ti.

9. “Fe welaist gystudd ein pobl yn yr Aifft,a gwrandewaist ar eu cri wrth y Môr Coch.

10. Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharoa'i holl weision a holl drigolion ei wlad,am dy fod yn gwybod iddynt ymfalchïo yn eu herbyn;a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw.

11. Holltaist y môr o'u blaen,ac aethant drwyddo ar dir sych.Teflaist eu herlidwyr i'r dyfnder,fel carreg i ddyfroedd geirwon.

Nehemeia 9