Nehemeia 8:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yna fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch â'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch â galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth.”

11. A thawelodd y Lefiaid yr holl bobl a dweud, “Byddwch ddistaw; peidiwch â galaru, oherwydd y mae heddiw yn ddydd sanctaidd.”

12. Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed ac i rannu ag eraill ac i orfoleddu, oherwydd yr oeddent wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthynt.

13. Ar yr ail ddiwrnod daeth pennau-teuluoedd yr holl bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, at Esra yr ysgrifennydd er mwyn astudio geiriau'r gyfraith.

Nehemeia 8