Nehemeia 7:26-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant wyth deg ac wyth;

27. gwŷr Anathoth, cant dau ddeg ac wyth;

28. gwŷr Beth-asmafeth, pedwar deg a dau;

29. gwŷr Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri;

30. gwŷr Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un;

31. gwŷr Michmas, cant dau ddeg a dau;

32. gwŷr Bethel ac Ai, cant dau ddeg a thri;

33. gwŷr y Nebo arall, pum deg a dau.

34. Teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;

35. teulu Harim, tri chant dau ddeg;

36. teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;

37. teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg ac un;

38. teulu Senaa, tair mil naw cant tri deg.

39. Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;

40. teulu Immer, mil pum deg a dau;

41. teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;

42. teulu Harim, mil un deg a saith.

43. Y Lefiaid: teulu Jesua, hynny yw Cadmiel, o linach Hodefa, saith deg a phedwar.

Nehemeia 7