Nehemeia 6:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat am iddynt wneud hyn, a hefyd Noadeia y broffwydes a'r proffwydi eraill oedd am fy nychryn.

15. Gorffennwyd y mur mewn deuddeg diwrnod a deugain, ar y pumed ar hugain o Elul.

16. Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.

17. Yn ystod y cyfnod hwn anfonodd pendefigion Jwda nifer o lythyrau at Tobeia, a daeth llythyrau oddi wrth Tobeia atynt hwythau;

Nehemeia 6