Nehemeia 6:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd Sanbalat a Tobeia a Gesem yr Arabiad a'r gweddill o'n gelynion fy mod wedi ailgodi'r mur ac nad oedd yr un bwlch ar ôl ynddo—er nad oeddwn y pryd hwnnw wedi gosod dorau ar y pyrth—

2. fe anfonodd Sanbalat a Gesem ataf a dweud, “Tyrd i'n cyfarfod yn un o'r pentrefi yn nyffryn Ono.” Ond eu bwriad oedd gwneud niwed imi.

Nehemeia 6