Nehemeia 4:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. a gwnaethant gynllun gyda'i gilydd i ddod i ryfela yn erbyn Jerwsalem a chreu helbul i ni.

9. Felly bu inni weddïo ar ein Duw o'u hachos, a gosod gwylwyr yn eu herbyn ddydd a nos.

10. Ond dywedodd pobl Jwda, “Pallodd nerth y cludwyr, ac y mae llawer o rwbel; ni allwn byth ailgodi'r mur ein hunain.

11. Y mae'n gwrthwynebwyr wedi dweud, ‘Heb iddynt wybod na gweld, fe awn i'w canol a'u lladd a rhwystro'r gwaith’.”

12. A daeth Iddewon oedd yn byw yn eu hymyl atom i'n rhybuddio ddengwaith y doent yn ein herbyn o bob cyfeiriad.

Nehemeia 4