Nehemeia 3:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yn ei ymyl ef yr oedd Usiel fab Harhaia, un o'r gofaint aur, ac yn ei ymyl yntau Hananeia, un o'r apothecariaid; hwy oedd yn trwsio Jerwsalem hyd at y Mur Llydan.

9. Yn eu hymyl hwy yr oedd Reffaia fab Hur, rheolwr hanner rhanbarth Jerwsalem.

10. Yn ei ymyl ef yr oedd Jedaia fab Harumaff yn atgyweirio o flaen ei dŷ, a Hatus fab Hasabneia yn ei ymyl yntau.

11. Yr oedd Malcheia fab Harim a Hasub fab Pahath-moab yn atgyweirio dwy ran a Thŵr y Ffwrneisiau.

Nehemeia 3