Nehemeia 3:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yn ei ymyl ef yr oedd Eser fab Jesua, rheolwr Mispa, yn atgyweirio dwy ran gyferbyn â'r allt at dŷ'r arfau, wrth y drofa.

20. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Baruch fab Sabai ddwy ran, o'r drofa hyd at ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad.

21. Ar ei ôl ef atgyweiriodd Meremoth fab Ureia fab Cos ddwy ran, o ddrws tŷ Eliasib hyd at dalcen ei dŷ.

22. Ac ar ei ôl ef atgyweiriodd yr offeiriaid oedd yn byw yn y gymdogaeth.

Nehemeia 3