Nehemeia 12:37-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Aethant heibio i Borth y Ffynnon ac i fyny grisiau Dinas Dafydd, wrth yr esgyniad i'r mur uwchben tŷ Dafydd, ac at Borth y Dŵr sydd yn y dwyrain.

38. Aeth y côr arall oedd yn rhoi diolch i'r chwith ac euthum innau gyda hanner y bobl ar ei ôl, ar hyd y mur o Dŵr y Ffyrnau at y Mur Llydan,

39. dros Borth Effraim a'r Hen Borth a Phorth y Pysgod, a heibio i Dŵr Hananel a Thŵr y Cant at Borth y Defaid, a sefyll ym Mhorth y Wyliadwriaeth.

40. Aeth y ddau gôr oedd yn rhoi diolch i mewn i dŷ Dduw, ac yna euthum innau, a hanner yr arweinwyr gyda mi,

41. a'r offeiriaid, Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, gyda'r trwmpedau;

Nehemeia 12