Nehemeia 12:26-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yr oedd y rhain yn nyddiau Joiacim fab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.

27. Pan ddaeth yr amser i gysegru mur Jerwsalem aethant i chwilio am y Lefiaid ymhle bynnag yr oeddent yn byw, a dod â hwy i Jerwsalem i ddathlu'r cysegru â llawenydd, mewn diolchgarwch a chân, gyda symbalau, nablau, a thelynau.

28. Ymgasglodd y cantorion o'r ardaloedd o amgylch Jerwsalem ac o bentrefi'r Netoffathiaid,

29. a hefyd o Beth-gilgal a rhanbarthau Geba ac Asmafeth; oherwydd yr oedd y cantorion wedi codi pentrefi iddynt eu hunain o amgylch Jerwsalem.

30. Yna purodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain, y bobl, y pyrth a'r mur.

31. A gwneuthum i arweinwyr Jwda esgyn i ben y mur, a threfnais i ddau gôr mawr roi diolch. Aeth un i'r dde ar hyd y mur at Borth y Dom,

32. ac ar ei ôl aeth Hosaia a hanner arweinwyr Jwda,

33. ac Asareia, Esra, Mesulam,

34. Jwda, Benjamin, Semaia, a Jeremeia;

35. a rhai o'r offeiriaid â thrwmpedau, Sechareia fab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff,

36. a'i frodyr Semaia, Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, Jwda, a Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra'r ysgrifennydd o'u blaen.

37. Aethant heibio i Borth y Ffynnon ac i fyny grisiau Dinas Dafydd, wrth yr esgyniad i'r mur uwchben tŷ Dafydd, ac at Borth y Dŵr sydd yn y dwyrain.

38. Aeth y côr arall oedd yn rhoi diolch i'r chwith ac euthum innau gyda hanner y bobl ar ei ôl, ar hyd y mur o Dŵr y Ffyrnau at y Mur Llydan,

39. dros Borth Effraim a'r Hen Borth a Phorth y Pysgod, a heibio i Dŵr Hananel a Thŵr y Cant at Borth y Defaid, a sefyll ym Mhorth y Wyliadwriaeth.

40. Aeth y ddau gôr oedd yn rhoi diolch i mewn i dŷ Dduw, ac yna euthum innau, a hanner yr arweinwyr gyda mi,

41. a'r offeiriaid, Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, gyda'r trwmpedau;

42. a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam ac Esra. Ac fe ganodd y cantorion o dan arweiniad Jasraheia.

43. A'r diwrnod hwnnw gwnaethant aberthau mawr a llawenychu, oherwydd yr oedd Duw wedi eu llenwi â gorfoledd; ac yr oedd y merched a'r plant hefyd yn gorfoleddu. Ac yr oedd llawenydd Jerwsalem i'w glywed o bell.

44. Y diwrnod hwnnw fe benodwyd dynion dros yr ystordai lle'r oedd y trysorau, y cyfraniadau, y blaenffrwyth a'r degymau, er mwyn casglu'r cyfrannau oedd yn ddyledus i'r offeiriaid a'r Lefiaid o'r meysydd o gwmpas y trefi; oherwydd yr oedd Jwda yn falch o wasanaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid.

45. Yr oeddent yn gofalu am wasanaeth eu Duw ac yn cadw defodau puredigaeth, fel yr oedd y cantorion a'r porthorion yn ei wneud, yn ôl gorchymyn Dafydd a Solomon ei fab.

46. Oherwydd yn yr amser gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd pen-cantorion a chanu mawl a diolch i Dduw.

Nehemeia 12