Nehemeia 11:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Bendithiodd y bobl y rhai a aeth o'u gwirfodd i fyw yn Jerwsalem.

3. Dyma benaethiaid y dalaith, oedd yn byw yn Jerwsalem. Yn nhrefi Jwda yr oedd yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon yn byw, pob un yn ei diriogaeth ei hun.

4. Dyma'r rhai o lwyth Jwda a'r rhai o lwyth Benjamin oedd yn byw yn Jerwsalem: o lwyth Jwda, Athaia fab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel o deulu Peres;

5. a Maaseia fab Baruch, fab Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni.

Nehemeia 11