31. Ac os daw pobl y wlad â nwyddau neu rawn o unrhyw fath i'w gwerthu ar y dydd Saboth, ni dderbyniwn ddim ganddynt ar y Saboth nac ar ddydd gŵyl. Yn y seithfed flwyddyn fe rown orffwys i'r tir, a dileu pob dyled.
32. Ac yr ydym yn ymrwymo i roi traean o sicl bob blwyddyn at waith tŷ ein Duw,
33. ar gyfer y bara gosod, y bwydoffrwm a'r poethoffrwm beunyddiol, y Sabothau, y newydd-loerau, y gwyliau arbennig, y pethau cysegredig a'r offrymau dros bechod i wneud iawn dros Israel, ac at holl waith tŷ ein Duw.
34. Ac yr ydym ni, yr offeiriaid, y Lefiaid a'r bobl, wedi bwrw coelbrennau ynglŷn â chario coed yr offrwm i dŷ ein Duw gan bob teulu yn ei dro, ar amseroedd penodol bob blwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.
35. Ac yr ydym wedi trefnu i ddod â blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth pob pren ffrwythau, bob blwyddyn i dŷ'r ARGLWYDD;
36. a hefyd i roi'r cyntafanedig o'n meibion a'n hanifeiliaid a'n gwartheg a'n defaid i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn nhŷ ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.
37. Hefyd i roi i'r offeiriaid y cyntaf o'n toes, o ffrwyth pob coeden, ac o'r gwin a'r olew newydd, ar gyfer ystordai tŷ ein Duw; ac i roi i'r Lefiaid ddegwm o'n tir am mai hwy sy'n casglu'r degwm yn yr holl bentrefi lle'r ydym yn gweithio.