Nahum 3:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ethiopia oedd ei chadernid,a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;Put a Libya oedd ei chymorth.

10. Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.

11. Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig,ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.

12. Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigysgyda'u ffigys cynnar aeddfed;pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr.

13. Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol,y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion,a thân wedi ysu eu barrau.

14. Tyn ddŵr ar gyfer gwarchae,cryfha dy amddiffynfeydd;dos at y clai,sathra'r pridd,moldia briddfeini.

Nahum 3