Micha 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae fi! Yr wyf fel gweddillion ffrwythau haf,ac fel lloffion cynhaeaf gwin;nid oes grawnwin i'w bwyta,na'r ffigys cynnar a flysiaf.

2. Darfu am y ffyddlon o'r tir,ac nid oes neb uniawn ar ôl;y maent i gyd yn llechu i ladd,a phawb yn hela'i gilydd â rhwyd.

3. Y mae eu dwylo'n fedrus mewn drygioni,y swyddog yn codi tâl a'r barnwr yn derbyn gwobr,a'r uchelwr yn mynegi ei ddymuniad llygredig.

4. Y maent yn gwneud i'w cymwynas droi fel mieri,a'u huniondeb fel drain.Daeth y dydd y gwyliwyd amdano, dydd cosb;ac yn awr y bydd yn ddryswch iddynt.

5. Peidiwch â rhoi hyder mewn cymydog,nac ymddiried mewn cyfaill;gwylia ar dy enau rhag gwraig dy fynwes.

Micha 7