Micha 6:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. O fy mhobl, beth a wneuthum i ti?Sut y blinais di? Ateb fi.

4. Dygais di i fyny o'r Aifft,gwaredais di o dŷ'r caethiwed,a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain.

5. O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab,a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef,a hefyd y daith o Sittim i Gilgal,er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.”

6. Â pha beth y dof o flaen yr ARGLWYDD,a phlygu gerbron y Duw uchel?A ddof ger ei fron â phoethoffrymau,neu â lloi blwydd?

7. A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddodneu ar fyrddiwn o afonydd olew?A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd,fy mhlant fy hun am fy mhechod?

Micha 6