Micha 4:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw,ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.

6. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“fe gasglaf y cloff,a chynnull y rhai a wasgarwyda'r rhai a gosbais;

7. a gwnaf weddill o'r cloff,a chenedl gref o'r gwasgaredig,a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seionyn awr a hyd byth.

8. A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion,i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu,y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.”

Micha 4