Micha 1:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Malurir ei holl gerfddelwau,llosgir ei holl enillion yn y tân,a gwnaf ddifrod o'i delwau;o enillion puteindra y casglodd hwy,ac yn dâl puteindra y dychwelant.”

8. Am hyn y galaraf ac yr wylaf,a mynd yn noeth a heb esgidiau;galarnadaf fel y siacal,a llefain fel tylluanod yr anialwch,

9. am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf;oherwydd daeth hyd at Jwda,a chyrraedd at borth fy mhobl,hyd at Jerwsalem.

10. Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath,a pheidiwch ag wylo yn Baca;yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch.

11. Ewch ymlaen, drigolion Saffir;onid mewn noethni a chywilyddyr â trigolion Saanan allan?Galar sydd yn Beth-esel,a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi.

12. Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth,oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDDddod hyd at borth Jerwsalem.

13. Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau,drigolion Lachis;chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion,ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.

14. Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath;y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.

Micha 1