Micha 1:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath;y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.

15. Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa,a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam.

16. Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel,am y plant a hoffaist;gwna dy hun yn foel fel eryr,am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.

Micha 1