Mathew 9:26-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno.

27. Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, “Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd.”

28. Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, “A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym, syr.”

29. Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.”

30. Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.”

31. Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.

32. Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul.

Mathew 9