Mathew 7:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.

16. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. Ai oddi ar ddrain y mae casglu grawnwin neu oddi ar ysgall ffigys?

17. Felly y mae pob coeden dda yn dwyn ffrwyth da, a choeden wael yn dwyn ffrwyth drwg.

18. Ni all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg, na choeden wael ffrwyth da.

19. Y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.

20. Felly, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.

21. “Nid pawb sy'n dweud wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd’, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

Mathew 7