Mathew 5:35-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw.

36. Paid â thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu.

37. Ond boed eich ‘ie’ yn ‘ie’, a'ch ‘nage’ yn ‘nage’; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.

38. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’

39. Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.

40. Ac os bydd rhywun am fynd â thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd.

41. Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddau.

42. Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.

43. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’

44. Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid;

45. felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn.

Mathew 5