Mathew 4:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant,

9. a dweud wrtho, “Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.”

10. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”

11. Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.

12. Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea.

13. A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali,

Mathew 4