Mathew 4:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'n ysgrifenedig drachefn: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”

8. Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant,

9. a dweud wrtho, “Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.”

10. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”

11. Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.

Mathew 4