Mathew 27:62-66 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

62. Trannoeth, y dydd ar ôl y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a'r Phariseaid ynghyd at Pilat

63. a dweud, “Syr, daeth i'n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto'n fyw, wedi dweud, ‘Ar ôl tridiau fe'm cyfodir.’

64. Felly rho orchymyn i'r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i'w ddisgyblion ddod a'i ladrata a dweud wrth y bobl, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw’, ac felly bod y twyll olaf yn waeth na'r cyntaf.”

65. Dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch.”

66. Aethant hwythau a diogelu'r bedd trwy selio'r maen, a gosod y gwarchodlu wrth law.

Mathew 27