Mathew 27:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.

32. Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef.

33. Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”,

34. ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed.

35. Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren,

36. ac eisteddasant yno i'w wylio.

Mathew 27