Mathew 26:64-69 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

64. Dywedodd Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny; ond rwy'n dweud wrthych:“ ‘O hyn allan fe welwch Fab y Dynyn eistedd ar ddeheulaw'r Galluac yn dyfod ar gymylau'r nef.’ ”

65. Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd.

66. Sut y barnwch chwi?” Atebasant, “Y mae'n haeddu marwolaeth.”

67. Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef

68. a dweud, “Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?”

69. Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, “Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead.”

Mathew 26