Mathew 25:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws.

11. Yn ddiweddarach dyma'r genethod eraill yn dod ac yn dweud, ‘Syr, syr, agor y drws i ni.’

12. Atebodd yntau, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.’

13. Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.

14. “Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal.

15. I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref.

Mathew 25