Mathew 24:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.

10. A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd.

11. Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.

12. Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.

13. Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

14. Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.

Mathew 24