Mathew 24:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau.

8. Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll.

9. Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.

10. A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd.

11. Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.

12. Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.

13. Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

Mathew 24