Mathew 24:36-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. “Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig.

37. Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.

38. Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch,

39. ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.

40. Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall.

41. Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall.

Mathew 24