Mathew 24:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Felly, pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’, y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd” (dealled y darllenydd)

16. “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.

17. Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ;

18. a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.

19. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!

20. A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,

21. oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.

Mathew 24