Mathew 23:17-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ffyliaid a deillion, p'run sydd fwyaf, yr aur, ynteu'r deml sy'n gwneud yr aur yn gysegredig?

18. A thrachefn fe ddywedwch, ‘Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r allor, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r offrwm sydd ar yr allor, y mae rhwymedigaeth arno.’

19. Ddeillion, p'run sydd fwyaf, yr offrwm, ynteu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?

20. Felly y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r allor yn tyngu iddi hi ac i bopeth sydd arni,

21. ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r deml yn tyngu iddi hi ac i'r hwn sy'n preswylio ynddi.

22. Ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r nef yn tyngu i orsedd Duw ac i'r hwn sy'n eistedd arni.

23. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio'r lleill.

24. Arweinwyr dall! Yr ydych yn hidlo'r gwybedyn ac yn llyncu'r camel.

25. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond y tu mewn y maent yn llawn trachwant a hunanfoddhad.

26. Y Pharisead dall, glanha'n gyntaf y tu mewn i'r cwpan, fel y bydd y tu allan iddo hefyd yn lân.

27. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn debyg i feddau wedi eu gwyngalchu, sydd o'r tu allan yn ymddangos yn hardd, ond y tu mewn y maent yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.

28. Felly hefyd yn allanol yr ydych chwithau yn ymddangos i bobl yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.

29. “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi ac yn addurno beddfeini'r rhai cyfiawn,

30. ac yn dweud, ‘Pe baem ni'n byw yn nyddiau ein hynafiaid, ni fyddem wedi ymuno gyda hwy i dywallt gwaed y proffwydi.’

31. Felly yr ydych yn tystio yn eich erbyn eich hunain eich bod yn blant i'r rhai a lofruddiodd y proffwydi.

32. Ewch chwithau ymlaen i orffen yr hyn a ddechreuodd eich hynafiaid.

33. Chwi seirff ac epil gwiberod, sut y dihangwch rhag barn uffern?

Mathew 23