Mathew 22:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.’

10. Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.

11. Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano.

12. Meddai wrtho, ‘Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?’ A thrawyd y dyn yn fud.

13. Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, ‘Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’

14. Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol.”

15. Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air.

16. A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, “Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.

17. Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?”

18. Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?

19. Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo,

20. ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”

Mathew 22