Mathew 22:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo,

20. ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”

21. Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”

22. Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.

Mathew 22