Mathew 22:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?”

18. Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?

19. Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo,

20. ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”

21. Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”

22. Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.

23. Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.

Mathew 22