Mathew 22:12-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Meddai wrtho, ‘Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?’ A thrawyd y dyn yn fud.

13. Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, ‘Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’

14. Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol.”

15. Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air.

16. A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, “Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.

17. Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?”

18. Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?

19. Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo,

20. ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”

21. Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”

22. Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.

23. Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.

24. Gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses, ‘Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.’

Mathew 22