Mathew 22:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion.

2. “Y mae teyrnas nefoedd,” meddai, “yn debyg i frenin a drefnodd wledd briodas i'w fab.

3. Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod.

4. Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior.” ’

5. Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach.

6. A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd.

7. Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref.

8. Yna meddai wrth ei weision, ‘Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng.

9. Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.’

10. Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.

Mathew 22