Mathew 21:33-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. “Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.

34. A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau.

35. Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall.

36. Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy.

37. Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’

38. Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’

Mathew 21