Mathew 21:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yn y bore, wrth iddo ddychwelyd i'r ddinas, daeth chwant bwyd arno.

19. A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, “Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy.” Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.

20. Pan welodd y disgyblion hyn, fe ryfeddasant a dweud, “Sut y crinodd y ffigysbren ar unwaith?”

21. Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, hynny a fydd.

Mathew 21