Mathew 21:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu ac yn gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,

13. a dywedodd wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi,ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.’ ”

14. A daeth deillion a chloffion ato yn y deml, ac iachaodd hwy.

15. Ond pan welodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Hosanna i Fab Dafydd!”, aethant yn ddig,

16. a dywedasant wrtho, “A wyt yn clywed beth y mae'r rhain yn ei ddweud?” Atebodd Iesu, “Ydwyf. Onid ydych erioed wedi darllen: ‘O enau babanod a phlant sugno y darperaist fawl i ti dy hun’?”

Mathew 21