Mathew 21:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Pan ddaeth ef i mewn i Jerwsalem cynhyrfwyd y ddinas drwyddi. Yr oedd pobl yn gofyn, “Pwy yw hwn?”,

11. a'r tyrfaoedd yn ateb, “Y proffwyd Iesu yw hwn, o Nasareth yng Ngalilea.”

12. Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu ac yn gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,

13. a dywedodd wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi,ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.’ ”

Mathew 21